Mae cyfres gyffrous Roy Grace gan yr awdur arobryn sydd wedi
gwerthu miliynau, Peter James, yn dychwelyd i Newcastle gyda'r
cynhyrchiad llwyfan cyntaf yn y byd oLooking Good Dead, gyda'r
actor arobryn ac eiconEastenders, Adam
Woodyatt yn y brif ran.
Rhai oriau ar ôl codi cof bach USB oddi ar sedd mewn
trên, er mwyn ceisio ei ddychwelyd i'w berchennog, trwy amryfusedd
mae Tom Bryce yn dyst i lofruddiaeth
greulon. Mae rhoi gwybod am y drosedd i'r
heddlu yn arwain at ganlyniadau trychinebus, gan ei roi ef a'i
deulu mewn perygl enbyd. Pan ddaw'r Ditectif Uwcharolygydd Roy
Grace yn rhan o'r holl beth, mae ganddo ei broblemau ei hun i
ddelio â nhw, wrth iddo geisio datrys yr achos mewn pryd i achub
bywydau'r teulu Bryce.
Wedi'i addasu gan yr awdur penigamp Shaun McKenna,
mae Looking Good Dead yn dilyn llwyddiant ysgubol The House on Cold
Hill gan sicrhau y byddwch ar bigau'r drain nes
yr eiliadau olaf iasol!
Peidiwch â cholli eich cyfle i weld y ddrama newydd
afaelgar hon gan Peter James ar daith am y tro
cyntaf.