• Some Guys Have All The Luck

    Friday 10 July 2020

    7.30yh

    Yn para:TBC
    Some Guys Have All The Luck

Mae'r canwr Paul Metcalfe yn anhygoel fel Rod ac yn dangos cyffro, egni a carisma'r perfformiwr enwog hwn gan gynnwys y symudiadau bondigrybwyll, ei ddawn unigryw i ddiddanu a'r ymdeimlad o hwyl sy'n perthyn iddo sy'n gwneud Rod yn un o'r artistiaid mwyaf llwyddiannus. 

Mae hanner cyntaf y sioe yn cynnwys caneuon o yrfa gynharach Rod megis Handbags and Gladrags a You Wear it Well ynghyd â ffefrynnau rhai o'r Faces fel Stay with Me a Twistinig the Night Away, pob un wedi'i phlethu gyda rhai straeon diddorol a doniol, gan fynd â chi ar daith gerddorol trwy yrfa Rod dros y pum degawd diwethaf - o'r dyddiau cynnar hynny i fod yn un o sêr mwyaf poblogaidd y byd.

Mae ail hanner y gyngerdd yn barti a hanner gan gynnwys ei ganeuon enwog fel Maggie May, Baby Jane, Da Ya Think I'm Sexy, Sailing, Tonight's the Night, The First Cut is the Deepest a You're in My Heart. 

Mae'r cynhyrchiad gwefreiddiol hwn, sydd bellach yn ei bedwaredd flwyddyn, yn cynnwys set lwyfan drawiadol, sioe oleuadau ysblennydd, band byw o'r siort orau a set lwyfan ragorol.



Tickets and reductions

Pob perfformiadau
£28.50

Bocsys o (uchafswm o 6 bobl)
£110 - £130

Gostyngiadau Safonal: £2.50 off

Grwpiau (8+):£2.50 off



Hynt
 

Seating plan

View our seating plan below


This seating plan is provided to give an impression of the auditorium layout. The actual position of some seats may vary slightly from this plan.