• The Da Vinci Code

    Tuesday 29 June - Saturday 3 July 2021

    Evenings 7.30pm; Thursday & Saturday matinees 2.30pm

    Mawrth - Iau 7.30pm
    £19.00- £37.00

    Gwener & Sadwrn 7.30pm & Sadwrn 2.30pm
    £20.00 - £38.50

    Iau 2.30pm
    £18.00 - £31.00


    The Da Vinci Code

Mae'r stori syfrdanol a gydiodd yn nychymyg y byd bellach yn gynhyrchiad llwyfan epig. Allwch chi ddatrys y cod a dirgelwch Oes?

Mae curadur y Louvre wedi cael ei lofruddio, ac wrth ochr ei gorff mae cyfres o godau rhyfedd. Dilynwch daith gyffrous yr Athro Robert Langdon a'i gyd-gryptolegydd Sophie Neveu yn ceisio datrys y posau, gan eu harwain at waith Leonardo da Vinci a'r tu hwnt, i gorneli tywyllaf hanes. Mewn ras ddi-baid drwy strydoedd Ewrop, rhaid i Langdon a Neveu ddehongli'r cod cyn i gyfrinach hanesyddol frawychus gael ei cholli am byth.

Yn seiliedig ar y nofel sydd wedi gwerthu mwy na'r un arall y ganrif hon, gyda dros 100 miliwn o gopïau wedi eu gwerthu, datglowch gyfrinachau'r DA VINCI CODE yn yr addasiad llwyfan cyntaf erioed o'r ffenomen rhyngwladol. Wedi'i gyfieithu i dros 50 o ieithoedd gwahanol, a'r awdur Dan Brown wedi'i enwi gan y Times yn un o'r 100 person mwyaf dylanwadol yn y byd, a'r nofel wedi ei haddasu'n ffilm hynod lwyddiannus a wnaeth dros $750 miliwn o elw, mae'r DA VINCI CODE yn synnu rhywun bob eiliad. Nawr gallwch chi fwynhau'r stori anhygoel yn fyw ar y llwyfan, wrth i Langdon a Neveu ddilyn trywydd cliwiau a mynd ar ras i ddatgelu'r gwirionedd yn un o anturiaethau mwyaf cyffrous y 2000 mlynedd diwethaf.

'Cyffro gwyllt a gwallgof. Perffeithrwydd' The New York Times

"Yr wyf wrth fy modd bod The Da Vinci Code yn cael ei addasu ar gyfer y llwyfan, ac yn llawn cyffro gweld holl bosibiliadau theatr fyw yn cyfoethogi'r stori hon. Mae'r tîm sydd â gofal dros y cynhyrchiad wedi bod yn driw iawn i'r llyfr, ond bydd hefyd yn dod â rhywbeth newydd i'r gynulleidfa, ac mae'n siŵr o fod yn hynod gyffrous, cyflym, gwefreiddiol a difyr." Dan Brown

Tickets and reductions

Gostyngiadau sfonol: £3.50 i ffwrdd
Mawrth - Gwener 7.30pm

Dros 60 oed: £17.00 yr yn
Mercher & Iau 2.30pm

React:

£10.00 Mawrth - Iau 7.30pm -   6.30pm

 

HyntA React event
 

Seating plan

View our seating plan below


This seating plan is provided to give an impression of the auditorium layout. The actual position of some seats may vary slightly from this plan.