Perfformiadau â chymorth
Cynigiwn ddehongliadau IAP, is-deitlau a disgrifiadau sain.
Cynigiwn hefyd Berfformiad Hamddenol o'r Pantomeim bob
blwyddyn.
Mae app am ddim
MobileConnect yn eich galluogi i gysylltu i ddisgrifiad sain
neu drac sain sioe gwell drwy'ch dyfais symudol
gyda'ch clustffonau'ch hun.
Perfformiadau disgrifiad sain
Mae perfformiadau disgrifiad sain ar gael ar gyfer sawl
cynhyrchiad y tymor, fel arfer yn y pnawn. Gallwch eu trefnu drwy
ffonio
029 2087 8889.
Mae tocynnau rhatach ar gael i'r Standiau blaen ar gyfer pob
ymwelydd â nam ar y golwg a rhywun yn gwmni iddo.
Gallai fod gan bobl â nam ar y golwg hawl i docyn am ddim neu am
bris llawer rhatach i'w cynorthwyydd personol/gofalwr.
Siaradwch â'r Swyddfa Docynnau cyn prynu'ch tocynnau.
Mae disgrifiad sain yn sylwebaeth fyw a roddir gan ddisgrifiwr
hyfforddedig, gyda rhywfaint o ddeialog actorion. Caiff
disgrifiad
ei gyfleu drwy glustffonau bach sydd wedi'u cysylltu â'r system
sain isgoch neu drwy app
MobileConnect. Gallwch ddefnyddio
eich dyfais bersonol er mwyn defnyddio
MobileConnect, neu gallwn gynnig dyfeisiau symudol yma yn y
theatr y mae croeso i
chi eu benthyca, yn ddewis amgen i glustffonau isgoch.
Clustffonau isgoch
Mae clustffonau isgoch ar gael o swyddfa reoli blaen y tŷ wrth
gyrraedd - holwch aelod o staff. Mae'r disgrifiad yn dechrau
15
munud cyn y perfformiad gyda manylion am y set, yr olygfa,
cymeriadau a disgrifiadau sain i ddod. Siaradwch ag aelod o
staff
Blaen y Tŷ wrth gyrraedd i gael eich clustffon.
Wrth archebu ar gyfer perfformiad Disgrifiad Sain, nodwch eich
seddi dewis a nifer y clustffonau sydd eu hangen arnoch, os
nad ydych yn defnyddio
MobileConnect. Nodwch fod angen blaendal o £5 a gaiff ei roi'n
ôl i chi.
Nid yw signal Isgoch y clustffonau hyn yn cyrraedd nifer fechan o
seddi yn y standiau felly siaradwch â'r swyddfa docynnau cyn
cadw seddi. Mae
MobileConnect ar gael yn yr awditoriwm cyfan.
Print bras a Braille
Mae rhestr cast mewn print bras a Braille a nodiadau cyn cynhyrchu
ar gael i nifer fach o gynyrchiadau ar gais rhag blaen.
Gall ein staff hefyd ddod â diodydd i seddi pobl â nam ar y golwg
ar yr egwyl ar gais. Siaradwch ag aelod o staff am hyn cyn
i'r
sioe ddechrau.
Perfformiadau Dehongliad Iaith Arwyddion Prydain
Mae'r Theatr Newydd yn aelod o SPIT (Perfformiadau Arwyddion mewn
Theatrau).
Mae'r Theatr Newydd yn cynnig perfformiadau â dehongliad Iaith
Arwyddion Prydain i sawl sioe pob tymor. Mewn perfformiad a
ddehonglir, mae ein dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain cymwys
cofrestredig yn sefyll ar un ochr o'r llwyfan, yn dehongli'r
testun i Iaith Arwyddion Prydain ochr yn ochr a'r perfformiad
byw.
O ran y perfformiadau hyn, mae bloc o seddi Standiau ar bris
rhatach yn cael eu cadw i bobl B/byddar i sicrhau y cânt olwg
dda
o'r dehonglydd. Ffoniwch 029 2087 8889 i gadw lle gan nodi y
byddwch yn defnyddio'r gwasanaeth.
Pan fo'n bosibl, byddwn yn rhoi manylion am y dehonglydd IAP
ymlaen llaw yn eich llyfryn ac ar y wefan.
Perfformiadau â chapsiynau
Cynigiwn berfformiadau â chapsiynau i sawl cynhyrchiad gydol y
flwyddyn. Mae'n trosi geiriau llafar yn gapsiynau sy'n rhoi
cyfle
i bobl â cholled clyw ddilyn perfformiad byw.
Mewn perfformiadau o'r fath, ymddengys y geiriau ar sgrin sydd fel
arfer ar ochr dde'r llwyfan ar yr un pryd ag y maen nhw'n
cael eu canu neu lefaru. Mae capsiynau hefyd yn cynnwys effeithiau
sain a synau oddi ar y llwyfan.
Gosodir seddi pris rhatach ar flaen y Standiau ar gyfer
perfformiadau â chapsiynau.
Ffoniwch 029 2087 8889 i gadw lle gan nodi y byddwch yn
defnyddio'r gwasanaeth.
Gwella'r clyw a chlustffonau
I wella mwynhad pobl â nam ar y clyw, mae system sain Isgoch ar
gael drwy'r awditoriwm.
Mae clustffonau ar gael i unrhyw un sydd â nam ar y clyw neu a
hoffai ddefnyddio'r gwasanaeth disgrifiad sain sydd ar gael i
rai
perfformiadau.
Mae dau fath gwahanol o glustffon ar gael. Mae'r cyntaf yn gofyn
am i gynorthwyon clyw gael eu diosg, gan ei fod yn ffitio i'r
glust. Mae'r tri gosodiad sy'n uchelhau sŵn yn un neu'r ddwy glust
neu sy'n rhoi disgrifiad sain o'r perfformiad mewn un glust.
Neu, mae clustffon sy'n cael ei osod gylch y gwddw ac sy'n gofyn
am i gynorthwyon clyw gael eu newid i'r gosodiad 'T'. Nid
yw'r math hwn o glustffon bob amser yn gweithio gyda'r modelau
cymorth clyw diweddarach.
Argymhellwn gadw clustffonau ymlaen llaw. Ffoniwch 029 2087 8790 i
gadw'ch clustffon.
Gallwch gasglu'r clustffon cyn y perfformiad o swyddfa Blaen y Tŷ
yn ardal bar y Standiau.
Nodwch fod angen blaendal o £5 a gaiff ei roi'n ôl i chi.
Nid yw signal Isgoch y clustffonau hyn yn cyrraedd nifer fechan o
seddi yn y standiau felly siaradwch â'r swyddfa docynnau cyn
cadw seddi.
I bobl sy'n defnyddio cynorthwyon clyw
Mae system dolen sain ar gael yng nghownter blaen de y Swyddfa
Docynnau i archebu neu wneud ymholiad cwsmeriaid. Nid
oes dolen sain yn yr awditoriwm (gweler yr opsiynau uchod).
Perfformiadau hamddenol
Cynigiwn y rhain ar gyfer pantomeims i bobl ag awtistiaeth,
anableddau dysgu ac anhwylderau synhwyraidd a chyfathrebu.
Holwch am fanylion yn y Swyddfa Docynnau.
Am unrhyw gymorth yn ystod eich ymweliad, gofynnwch i'ch staff
cyfeillgar. Fel rhan o'n hymrwymiad i roi mynediad i
bawb,
caiff yr holl staff hyfforddiant sylfaenol ymwybyddiaeth o
anabledd.
Cŵn cymorth
Mae croeso i gŵn clyw, cŵn tywys a chŵn cymorth yn y theatr.
Gallwn gynnig seddi addas ar gais wrth i chi gadw lle. Gall
staff
ofalu am gŵn clywed yn ystod eich ymweliad ar gais. Os hoffech
drefnu hyn ymlaen llaw ffoniwch swyddfa Rheoli Blaen y Tŷ ar
029 2087 8790.
Gofynnwch am wybodaeth am effeithiau arbennig a allai ofidio'ch ci
yn ystod y perfformiad.
Croesawn adborth ar ein gwasanaeth cwsmeriaid. Yn ystod eich
ymweliad, cysylltwch â'r Rheolwr ar Ddyletswydd gydag
unrhyw ofynion arbennig a gofynnwch iddo anfon eich sylwadau
ymlaen.
Codwch unrhyw broblemau yn ystod eich ymweliad wrth iddyn nhw
ddigwydd. Gwnawn ein gorau i'w datrys ac unioni pethau.
Os hoffech roi adborth manylach ar ôl perfformiad, gallwch ein
e-bostio yn ntmailings@caerdydd.gov.uk neu'n ffoniwch ar
02920 87 88 89.
Gwybodaeth i bobl ag anghenion synhwyraidd a chyfathrebu
Eich ymweliad
Bydd yr awditoriwm ar agor tua 30 munud cyn dechrau'r sioe. Bydd y
bar ar agor bryd yma ac mae ardaloedd cyntedd ar bob
lefel o'r theatr lle gallwch aros.
Gallai'r ardaloedd hyn fod yn brysur ar adegau. Mae angen tocyn i
gael mynediad i'r theatr a bydd angen i chi ei ddangos i
staff
Blaen y Tŷ, a fydd yn eich cyfeirio at eich sedd ddynodedig. Bydd
rhif y rhes a'r sedd ar y tocyn.
Os hoffech fynd i'ch sedd cyn pawb arall, gofynnwch i aelod o
staff a fydd yn trefnu hyn i chi.
Ein
stori weledol yn help i baratoi ymwelwyr
ar gyfer y profiad o ymweld â theatr i wylio perfformiad.
Y perfformiad
Cyn i'r perfformiad ddechrau bydd pobl yn cerdded i mewn ac allan
o'r awditoriwm yn chwilio am eu seddi. Gallai fod
rhywfaint
o gerddoriaeth yn chwarae a gallai cyhoeddiad gael ei wneud i'r
gynulleidfa.
Ychydig cyn y perfformiad, caiff goleuadau'r awditoriwm eu pylu.
Caiff y llen ei chodi gyda'r gynulleidfa'n aros yn dawel yn
aros
am yr hyn i ddod. Gallai fod chwerthin neu gymeradwyo yn ystod y
perfformiad.
Mae fel arfer egwyl tua hanner ffordd drwy'r perfformiad. Mae'r
gynulleidfa'n cymeradwyo a chaiff y llen ddiogelwch ei rhoi i
lawr. Caiff y goleuadau eu cynnau a gall pobl fynd i'r cynteddau i
gael lluniaeth neu i ddefnyddio'r tai bach.
Bydd yr egwyl yn para tua 20 munud a bydd cyhoeddiad yn rhoi
gwybod i bobl ddychwelyd i'w seddi am yr ail hanner. Caiff y
goleuadau eu pylu eto a chaiff y llen ei chodi.
Ar ddiwedd y perfformiad mae'r gynulleidfa'n cymeradwyo, caiff y
llen ei rhoi i lawr a bydd y goleuadau'n cael eu cynnau eto.
Gall gymryd rhai munudau i'r gynulleidfa adael yr awditoriwm a
gall fod torfeydd mawr bryd hynny.
Mae rhai perfformiadau'n cynnwys goleuadau strôb, cleciau mawr
(fel saethu gwn), cerddoriaeth uchel a goleuadau fflachio.
Holwch y Swyddfa Docynnau pan fyddwch yn prynu tocynnau a ydy'r
rhain yn rhan o'r sioe. Bydd hefyd arwyddion ar y drysau i
roi gwybod i bobl am hyn cyn iddynt fynd i mewn.