1985
Judi Richards yn cael ei phenodi'n Rheolwr Gyfarwyddwr y New
Theatre. Mae ganddi gysylltiadau hir a balch gyda'r lle - gan i'w
thaid helpu i adeiladu'r theatr wreiddiol!
1986 Perfformiad cyntaf o Otello Verdi
gan Gwmni Opera Cymru, sydd hefyd yn perfformio Cyfres y Fodrwy
(Ring Cycle) Wagner yn ei chyfanrwydd am y tro cyntaf yng
Nghymru.
Cyngor Dinas Caerdydd yn cymryd yr awenau'n llwyr, ac yn
cyhoeddi cynllun o waith trwsio mawr.
1987/88 Y theatr ar gau am 12 mis wrth gael ei
hadnewyddu.
1988 Cwmni Theatr Clwyd yn cyflwyno A
Chorus of Disapproval gan Alan Ayckbourn.
Cynhyrchiad teithiol Peter Hall Company o Orpheus
Descending gyda Vanessa Redgrave; cyn symud ymlaen i'r West
End a Broadway.
1989 Perfformiad cyntaf Evita yng
Nghymru.

1990 Richard Harris yn ymddangos yn Henri
IV gan Pirandello.
Time and the Conways gan J B Priestley yn cynnwys
actorion fel Joan Plowright, Julie Kate a Tamsin Olivier, wedi'u
cyfarwyddo gan Richard Olivier.
Cynhyrchiad y National Theatre o Richard III yn cynnwys
Ian McKellen (a welwyd yma fel Edward II a Richard II ym 1969, a
Hamlet ym 1971).
1991 An Evening With Peter Ustinov
wedi gwerthu'n llwyr am wythnos gyfan.
1993 Marti Caine yn dychwelyd i'r llwyfan ym
mhantomeim Snow White eleni.
1994 Anthony Hopkins yn serennu yn fersiwn
Cwmni Theatr Clwyd o August, addasiad o Uncle
Vanya gan Chekov, sydd hefyd yn cynnwys Leslie Philips a merch
Richard Burton, Kate.
1995 Vanessa Redgrave yn dychwelyd i Gaerdydd
yn Antony and Cleopatra gan Shakespeare.
1996 Tymor i ddathlu hanner canmlwyddiant Cwmni
Opera Cymru.
Cynhyrchiad arbennig i ddathlu pen-blwydd y New Theatre yn 90
oed yw Marlene gyda Siân Philips (bu Dietrich ei hun yma
ym 1973).
1997 Cynhyrchiad clodwiw'r National Theatre o
Cardiff East gan y dramodydd lleol Peter Gill - yr unig
berfformiad y tu allan i Lundain.
A Delicate Balance gan Edward Albee, gyda Maggie Smith
(wyneb cyfarwydd arall a chwaraeodd ran Desdemona gyda Laurence
Olivier fel Othello ar ddiwedd y 1960au).
1998 Digwyddiad cyntaf 'Youth Dance Summer
School' yn rhoi cyfle i bobl ifanc y de gydweithio â dawnswyr
proffesiynol am wythnos, cyn perfformio eu cynhyrchiad eu hunain.
Mae'r prosiect addysg allanol hwn yn dal ar waith heddiw.
Robert Lindsay yw Richard III yng nghynhyrchiad teithiol yr
RSC.
1999 Penodi Susan Lewis yn rheolwraig y New
Theatre.

2000 Clwyd Theatr Cymru yn cyflwyno addasiad
llwyfan o drioleg grymus y nofelydd Alexander Cordell, ac yn
perfformio'r tair drama ar yr un diwrnod.
Première Cymru o Art gan Yasmina Reza gyda Nigel
Havers, Barry Foster a Roger Lloyd-Pack.
Cynnal cystadleuaeth 'BBC Radio 2 Voice of Musical Theatre
Competition' yma am y tro cyntaf. Yr enillydd yw Laura Michelle
Kelly, a aeth ymlaen i serennu yn sioe gerdd Mary Poppins
yn y West End.
2001 Y National Theatre yn llwyddo i godi
gwrychyn gyda'u cynhyrchiad dadleuol Mother Clapp's Molly
House.
2002 Julie Goodyear yn ymddangos yn La Cage
aux folles, ac yn cyhoeddi ei bwriad i ailymuno â
Coronation Street.
Lansio gwefan y theatr am y tro cyntaf.
The Play What I Wrote, gyda'r cast gwreiddiol, yn dod i
Gaerdydd cyn codi pac am Broadway - a'r actor gwadd yw Charles
Dance.
Y New Theatre yn rhan o ŵyl Ryngwladol Theatr Gerdd Caerdydd am
y tro cyntaf .
2003 Cystadleuaeth BBC Canwr y Byd yn dod i'r
New Theatre.
Cwmni Theatr Cymru yn cyflwyno'u cynhyrchiad agoriadol o
Under Milk Wood, gyda Matthew Rhys.
Dechrau gwerthu tocynnau'r theatr ar y we am y tro cyntaf.
2004 Canolfan Mileniwm Cymru yn agor ei
drysau. Ymddangosiad olaf Cwmni Opera Cymru yma cyn symud i'w
cartref newydd yng Nghanolfan y Mileniwm - bron i 50 mlynedd ers
ymddangosiad cynta'r cwmni yn y New Theatre.
Cwmni Theatr Cymru yn perfformio tair o ddramâu Shakespeare mewn
un diwrnod ar ddiwrnod ola'r daith.
Y New Theatre yn dal i fynd o nerth i nerth, gyda
chynulleidfaoedd mwy nag erioed.
Christopher Eccleston a Billie Piper, ynghyd â Simon Callow fel
Charles Dickens, yn ffilmio rhan o bennod Doctor Who,
The Unquiet Dead, yn y New Theatre (darlledwyd yng
ngwanwyn 2005).
2005 A Man for All Seasons gan Robert
Bolt, yn cynnwys Martin Shaw, yn dod i'r New Theatre cyn mynd
ymlaen i'r West End.
Cwmni Theatr Cymru yn cyflwyno Hamlet, gyda fersiwn
Cymraeg ohono ar rai nosweithiau.
2006 Gwaith adnewyddu mawr ar du allan yr
adeilad yn barod ar gyfer dathlu canmlwyddiant y New Theatre ym mis
Rhagfyr.
Première Caerdydd o sioe gerdd CATS yn para am 4
wythnos dros yr haf.
Pantomeim Jack & the Beanstalk yn llwyddiant
ysgubol, gyda John Barrowman (Doctor Who,
Torchwood)
2007 Galw mawr am docynnau ar gyfer fersiwn
cwmni theatr Orbit o High School Musical
Seren Dallas, Linda Gray, yn ymddangos yn Terms of
Endearment
Warren Mitchell yn y ddrama gomedi dwymgalon, Visiting Mr
Green
2008 Tommy Steele yn actio'r brif ran am
bythefnos yn y sioe gerdd ysblennydd, Doctor Dolittle
Y rociwr enwog Brian May o'r grŵp Queen yn gwneud ymddangosiad
annisgwyl yn Hello, Dolly! ar 21 Mehefin
2009 Cynnal clyweliadau Caerdydd ar gyfer
Britain's Got Talent yn y New Theatre.
Pob tocyn wedi'i werthu wrth i gast gwreiddiol Calendar
Girls ymddangos am wythnos ym mis Mawrth cyn yr agoriad
hirddisgwyliedig yn y West End.
Robert Redford, ŵyr sylfaenydd y theatr, yn dod i weld
Singin' in the Rain ym mis Mawrth. Mae hefyd yn rhoi
archif ei deulu o doriadau papur newydd a phosteri o 1906 - 1935
i'r theatr.
Torri pob record yn y Swyddfa Docynnau wrth i John Barrowman
ddychwelyd ar gyfer y pantomeim Robin Hood.
2010 Ym mis Mai, mae National Theatre Wales yn
cyflwyno drama hir gyntaf John Osborne, The Devil Inside
Him, yn ei chyfanrwydd am y tro cyntaf erioed.
Ym mis Hydref, cynhaliwyd cyngerdd arbennig am un noson yn unig
i gofio'r diweddar Olive Guppy. Ymddangosodd yr Olivettes
mewn 30 a mwy o bantomeimiau.
Y sioe gerdd Scrooge gyda Tommy Steele yw'r sioe gerdd sydd wedi
sicrhau'r incwm mwyaf erioed dros gyfnod o bythefnos yn y New
Theatre.
2011 Mae Susan Lewis yn rhoi'r gorau i'w gwaith
fel Rheolwr y Theatr ym mis Ionawr ar ôl 12 mlynedd yn y
swydd.
Lansio ymgyrch i godi arian ar gyfer seddi newydd yn y Cylch
Uchaf.
Tracie Bennett yn chwarae rhan Judy Garland yn End of the
Rainbow, rhwng ymddangosiadau yn y West Enda Broadway.
2012 On Golden Pond gyda
Stefanie Powers, seren Hollywood
Y theatr yn cau am 14 wythnos er mwyn gosod seddi'r Cylch Uchaf,
lifft i gwsmeriaid ac ailbeintio'r awditoriwm
Cwmni theatr Shakespeare's Globe yn ymddangos yn y New Theatre
am y tro cyntaf erioed, gyda fersiwn wefreiddiol o Henry
V
Bwrlwm mawr ym mis Hydref, gyda phob tocyn wedi'i werthu ar
gyfer 9 perfformiad o The Mousetrap fel rhan o'r daith
gyntaf erioed o amgylch y DU.
2013 Perfformiad a hanner gan Emi Wokoma fel
Tina Turner yn Soul Sister
Croesawu Flavia a Vincent, sêr 'Strictly', yma am y tro
cyntaf
Felicity Kendall a Simon Callow yn rhannu'r llwyfan ar gyfer
Chin-Chin
2014 Perfformiad o'r Full Monty
cyn iddo fynd ymlaen i'r West End
Warwick Davis yn dod â'i gwmni Reduced Height Theatre Company
yma mewn cynhyrchiad o See How They Run
Dawn French yn serennu mewn sioe-un-fenyw, Thirty Million
Minutes
2015 Syr Bruce Forsyth, seren o fyd
adloniant, yn dychwelyd ar ôl 50 mlynedd a mwy
Lorna Luft yn ymddangos yn The Songbook of Judy
Garland, sioe deyrnged i'w mam.
Wedi llwyddiant ysgubol Cinderella, pantomeim 2014-15,
fe gymrodd y New Theatre y cam anarferol o ddenu 6 aelod o'r cast
yn ôl ar gyfer sioe Aladdin 2015-16 - sef Linda Lusardi,
Mike Doyle, Gareth Thomas, Andy Jones, Sam Kane a Holly Bluett.
2016 Mae Owen Teale a Damien Malony yn ymuno â
Syr Ian McKellan a Syr Patrick Stewart yn No Man's Land
gan Harold Pinter cyn i'r cynhyrchiad ei throi hi am y West End.
Cafodd dderbyniad gwresog tu hwnt.
Mae'r Rocky Horror Show yn ymddangos ddwywaith yn ystod
y flwyddyn yn sgil galw mawr.
David Hasselhoff yw seren y sioe fel Captain Hook ym mhantomeim
Peter Pan.
